Cyfrannwch
Gwneud bywydau pobl yn well
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cyflwyno rhaglen amrywiol o weithgareddau creadigol a diwylliannol i helpu i wneud bywydau pobl yn well. Rydym yn rhedeg theatrau, llyfrgelloedd, parc gwledig a chanolfannau cymunedol, yn ogystal â phrosiectau hyfforddi ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.
Bydd eich rhodd yn ein helpu i ddarparu cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gyda'i gilydd gan ddiwylliant.
Diolch am eich cefnogaeth.
Dewiswch y swm yr hoffech ei gyfrannu isod:
Swm rydych chi'n ei roi £ 0
Cynllun mynediad Hynt
Mae Hynt yn gynllun mynediad sy'n cynnig tocyn am ddim i ddeiliaid cerdyn ar gyfer eu cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth mynediad benodol i gynllunio taith i'r theatr.
Os oes gennych chi ofyniad mynediad penodol, neu os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â gofyniad mynediad, yna mae Hynt yn berthnasol i chi. Gallwch archebu tocynnau Hynt ar ein gwefan, unwaith y byddwch wedi cofrestru eich cerdyn Hynt ar ein cronfa ddata. Gallwch hefyd archebu tocyn Hynt dros y ffôn.