Llyfrgelloedd Awen
Mae ein chwe llyfrgell amser llawn, dwy lyfrgell gymunedol rhan-amser a'r gwasanaeth dosbarthu cartref Archebus on Wheels yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym hefyd yn cefnogi ac yn stocio dwy lyfrgell mewn lleoliadau sy'n cael eu staffio a'u rheoli gan Halo Leisure ac sydd â chronfa lyfrau fawr. Mae ein hadnodd hanes lleol a theuluol ym Maesteg yn gartref i gasgliad sylweddol o ddeunyddiau ymchwil.
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Diben Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yw 'gwneud bywydau pobl yn well' a thrwy ein llyfrgelloedd rydym wedi ymrwymo i wella llythrennedd pobl o bob oed; cefnogi darllen er pleser trwy fentrau fel Her Ddarllen yr Haf; gwella lles a mynd i'r afael ag allgáu digidol trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau; a darparu mynediad diduedd at ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy. Ni oedd y gwasanaeth llyfrgell cyntaf yng Nghymru i ddileu dirwyon am lyfrau hwyr.
Mae Llyfrgelloedd Awen yn cynnal arolygon blynyddol i Oedolion a Phlant. Tynnodd canlyniadau arolwg 2021/22 sylw at bwysigrwydd y staff, y gweithgareddau, y gofod a'r adnoddau (llyfrau, cyfrifiaduron personol, argraffyddion ac ati) a ddarparwn i'n cwsmeriaid. Yn yr arolwg oedolion, enwodd 64% y staff fel cryfder; enwodd eraill y gofod, yr awyrgylch neu amgylchedd y llyfrgell a nododd dros chwarter o'r rhai a holwyd yr effaith negyddol y byddai cael gwared ar y llyfrgell yn ei chael ar eu hiechyd meddwl.
