Llyfrgelloedd Awen
Os ydych chi wedi'ch cyfyngu i'ch cartref neu'n cael trafferth symud o gwmpas, rydym yn darparu gwasanaeth llyfrgell am ddim yn syth i'ch drws.
Rydym yn ymweld â channoedd o bobl bob mis yn dosbarthu llyfrau, DVDs a llyfrau sain i gwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyrraedd ein llyfrgelloedd cymunedol. Gallwch bori ac archebu llyfrau gartref trwy ein catalog ar-lein, neu ofyn i'n staff cyfeillgar, wedi'u hyfforddi'n llawn ddewis llyfrau i chi. Mae gennym ystod eang o lyfrau print bras a llyfrau sain ar gyfer cleientiaid â nam ar eu golwg i ddewis ohonynt, a gallwn hefyd gefnogi lawrlwythiadau llyfrau sain. Os ydych chi'n teimlo y byddech chi neu berthynas yn elwa o'r gwasanaeth hwn, yna cysylltwch â ni i sgwrsio am eich gofynion.
