Beth sydd ymlaen
Amdanom ni
Canolbwynt cymunedol ar ben bryn
Yn swatio ar fryn ym mhen uchaf Cwm Garw, mae Neuadd y Gweithwyr Blaengarw yn gyfleuster cymunedol ffyniannus, yn cynnig gweithdai a dosbarthiadau, theatr deuluol, comedi, cerddoriaeth fyw a mwy.
Gyda chroeso cynnes bob amser, mae’r Neuadd yn cynnig gofod creadigol i’r gymuned gael mynediad i’r celfyddydau a diwylliant. Gyda threftadaeth gyfoethog, mae Neuadd y Gweithwyr Blaengarw yn gofeb i ddyfeisgarwch ac ymrwymiad y dynion a weithiai ar y ffas lo ym mhyllau glo Blaengarw.
Eisiau gwybod beth sydd ymlaen yng Nghwm Garw? Edrychwch ar ein tudalennau beth sydd ymlaen a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod yn gyntaf.





