Beth sydd ymlaen
Amdanom ni
Lle mae cymuned yn cwrdd â diwylliant.
Saif Neuadd y Dref Maesteg yn falch yng nghanol Cwm Llynfi, gan ddod â chymysgedd o theatr, perfformiadau, cerddoriaeth fyw, comedi, sinema a mwy.
Mae ailddatblygiad mawr wedi adfer Neuadd y Dref i'w hen ogoniant, gan gadw ei threftadaeth gyfoethog, a chynnig cyfleusterau modern gan gynnwys atriwm gwydr, theatr stiwdio a gofod sinema, ynghyd â llyfrgell fodern, canolfan hanes a threftadaeth leol, a chaffi. Mae'r gofod newydd hwn yn gartref i raglen ddeinamig o ddigwyddiadau celfyddydol, diwylliannol a chymunedol ar gyfer pob oedran yn y dref a'r cwm cyfagos.
Eisiau gwybod beth sydd ymlaen ym Maesteg? Edrychwch ar ein tudalennau beth sydd ymlaen a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod yn gyntaf.






















