Neidio i'r cynnwys
Mewngofnodi

basged

eitem (au)
Disgownt:
Cyfanswm:
Cyfrannwch

Cwestiynau Mwyaf Cyffredin

Gellir archebu diodydd egwyl ymlaen llaw ar-lein. Os oes gennych rif ffôn symudol wedi'i gofrestru ar ein system, byddwch yn derbyn neges destun cyn eich ymweliad, gyda dolen yn eich galluogi i archebu diodydd.

Gall staff dderbyn ceisiadau am archeb egwyl er mwyn eich galluogi i gasglu eich diodydd yn gyflym ac osgoi ciwio.

Sylwch ein bod yn cadw'r hawl i wrthod mynediad neu werthu alcohol i'r rhai yr amheuir eu bod eisoes dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a/neu afreolus. Rydym yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at gam-drin ein staff.

Cysylltwch â'n tîm swyddfa docynnau ar 0330 0554488 (10am i 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu anfonwch e-bost atom yn box.office@awen-wales.com a byddwn yn falch o'ch helpu.

Cliciwch yma i ddarllen ein telerau ac amodau llawn.

I dderbyn gwybodaeth am sioeau a digwyddiadau yn y dyfodol yn Neuadd y Dref Maesteg a'n lleoliadau eraill , gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i dderbyn marchnata e-bost yn adran eich cyfrif ar y wefan. Bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi'ch cynnwys ar y rhestr bostio ar gyfer ein llyfryn electronig misol.

Mae llinell ffôn swyddfa docynnau Awen ar agor o 10am i 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar 0330 0554488. Gallwch hefyd archebu tocynnau ar wefan ein swyddfa docynnau 24 awr y dydd.

Gallwch archebu tocynnau ar-lein gan ddefnyddio gwefan ein swyddfa docynnau 24 awr y dydd.  

Os yw'n well gennych siarad â rhywun i archebu eich tocynnau, gallwch ffonio llinell ffôn ein swyddfa docynnau ar 0330 0554488. Mae ar agor o 10am i 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os oes angen i chi gysylltu â ni y tu allan i'r oriau hyn, anfonwch e-bost at box.office@awen-wales.com a byddwn yn cysylltu'n ôl â chi.

Nid oes maes parcio ar y safle ar gyfer Neuadd y Dref Maesteg, ond mae parcio cyhoeddus am ddim ar gael ar Ffordd Llynfi, dim ond taith gerdded fer i ffwrdd o'r lleoliad.

Mae gennym raglen o sinema reolaidd yn ein stiwdio 60 sedd sydd wedi'i chynllunio'n arbennig – Y Bocs Oren.

Mae Y Bocs Oren yn dangos ffilmiau newydd, yn ogystal â chlasuron, ffilmiau annibynnol, ffilmiau Cymreig, Prydeinig a Rhyngwladol a sinema digwyddiadau, fel dangosiadau byw o ddigwyddiadau a gwyliau ffilm y West End. Y cyfan am brisiau fforddiadwy, ar garreg eich drws.

Cliciwch yma am wybodaeth llogi lleoliad.

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau

E-bost: box.office@awen-wales.com
Rhif ffôn: 03300 554488

Yn ôl i ben y dudalen
Chwilio