Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg
Trawsnewid Traddodiad
Mae ailddatblygiad uchelgeisiol Neuadd y Dref Maesteg yn un o'r buddsoddiadau unigol mwyaf a wnaed erioed yn yr ardal.
Er gwaethaf rhaglenni atgyweirio a chynnal a chadw ar hyd ei 140 mlynedd, dioddefodd Neuadd y Dref Maesteg oherwydd degawdau o ddirywiad yn ei ffabrig a’i threftadaeth adeiledig. Dangosodd astudiaethau a gynhaliwyd gan beirianwyr adeileddol fod yr adeilad mewn perygl difrifol o gau heb ymyrraeth uniongyrchol. Dechreuodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ynghyd â’i phartneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y broses ailddatblygu i ddiogelu’r adeilad am genedlaethau i ddod.
Nid yn unig y mae'r ailddatblygiad trawsnewidiol yn amddiffyn nodweddion cyfnod a threftadaeth ddiwylliannol y Neuadd, mae hefyd wedi ychwanegu cyfleusterau modern y mae perfformwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd eu hangen ac yn eu disgwyl. Mae'r rhain yn cynnwys atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a gofod sinema, caffi a bar mesanîn, a llyfrgell fodern. Mae hygyrchedd y lleoliad hefyd wedi'i wella'n fawr gydag ychwanegu lifft cyhoeddus a chyfleusterau toiled Changing Places ar gyfer ymwelwyr anabl.















