Neidio i'r cynnwys
Mewngofnodi

basged

eitem (au)
Disgownt:
Cyfanswm:
Cyfrannwch

Gwirfoddolwch gyda ni i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl a mwynhau profiadau diwylliannol

Yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mae gennym amrywiaeth o rolau gwirfoddoli, p’un a oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau, ein llyfrgelloedd, ein parc gwledig, ein prosiectau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu (B-Leaf a Wood B), gobeithio y cawn gyfle i chi.

Mae cymaint o agweddau cadarnhaol i wirfoddoli; byddwch yn cyfarfod â phobl o bob oed a chefndir, yn cael profiadau newydd ac yn chwarae rhan weithredol yn eich cymuned leol.

Mae gennym dîm ffyniannus a chyfeillgar o wirfoddolwyr sy'n helpu i'n cefnogi, ond rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl.

Byddwn yn sicrhau bod gennych yr hyfforddiant, y gefnogaeth a'r cyfarwyddyd priodol i gael y gorau o'ch profiad gwirfoddoli gyda ni.

Sut i wirfoddoli

Os ydych chi'n gyfeillgar a chroesawgar, ac â diddordeb mewn cefnogi eich cymuned a'ch theatr leol, cysylltwch â ni am wybodaeth yn volunteering@awen-wales.com neu llenwch y ffurflen hon.

Darllenwch fwy am wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yma.

I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen yma.

Yn ôl i ben y dudalen
Chwilio