
*DIM OND PLANT SYDD ANGEN TOCYNNAU*
Ymunwch â ni am ein BioBlitz cyntaf un! Ymunwch â thîm y ceidwaid am ddiwrnod llawn o weithgareddau wedi'u cynllunio i ddarganfod, adnabod a chofnodi cymaint o rywogaethau o fywyd gwyllt â phosibl mewn 24 awr.
Cwrdd yn Y Nyth i weld pa ffrindiau pluog y gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw!
Byddwn yn defnyddio ysbienddrych i wylio a dysgu sut i adnabod adar y goedwig, mynd am dro i'r llyn a bwydo'r hwyaid, a chrwydro i'r coed i wrando ar gân yr adar!
Darperir yr holl ddeunyddiau. Bydd rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal y tu allan felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd.
Ymwadiad: Os bydd llai na 5 tocyn yn cael eu gwerthu, bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo oherwydd diffyg diddordeb.