
Perfformiad am ddim i deuluoedd yn atriwm Neuadd y Dref Maesteg ar gyfer Diwrnod y Gymuned!
Does dim angen archebu ar gyfer y digwyddiad hwn, dim ond troi fyny, ymuno, a gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i fyny'r grisiau i'r brif neuadd i weld y Ffair Grefftau cyn neu ar ôl y sioe!
Mae Coblyn yn ddathliad o lên gwerin Cymru sy'n addas i deuluoedd, yn llawn cerddoriaeth, caneuon a dawns werin.
I lawr ar waelod yr ardd, rhwng y caws llyffant a'r pwll anwadal, mae criw afreolus o gorachod hudolus yn byw!
Disgrifiad Sain: Bydd gan bob perfformiad gyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw, gyda disgrifiad sain yn Saesneg (gan Michelle Perez) a Chymraeg (gan Noni Lewis).
Daw COBLYN i chi gan Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo, gyda diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru a’n cyd-gomisiynwyr, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Gwyl Fach y Fro, Yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl.