Neidio i'r cynnwys
Mewngofnodi

basged

eitem (au)
Disgownt:
Cyfanswm:
Cyfrannwch
Delwedd Digwyddiad

Mae'r cerddorion arobryn Angharad Jenkins (ffidil/llais) a Patrick Rimes (ffidil/llais/piano/pibau) wedi bod yn aelodau o'r grŵp gwerin Cymreig enwog Calan ers dros 15 mlynedd, gyda Patrick hefyd yn perfformio fel rhan o'r triawd gwerin siambr Vri a'r triawd gwerin Alaw, ac Angharad yn perfformio ar ei phen ei hun gyda'i phrosiect amgen-bop 'Angharad'.


Mae'r ddau gerddor wedi cael eu henwebu am Wobr Gerddoriaeth Cymru fwy nag unwaith. Fel deuawd maen nhw'n mynd â'u cariad a'u gwybodaeth am gerddoriaeth werin Gymreig i lefelau newydd o agosatrwydd, gyda chwarae bywiog a harmonïau lleisiol hardd.

Rhannwch y digwyddiad hwn:

Yn ôl i ben y dudalen
Chwilio