
Dewch i weld awditoriwm Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd, gan gynnwys y chwe phaentiad cadwraethol gan yr arlunydd clodwiw Christopher Williams a aned ym Maesteg. Bydd tywysydd wrth law i siarad am y straeon y tu ôl i'r paentiadau.
Yn ein theatr stiwdio newydd, Y Bocs Oren, byddwch yn gallu gweld fideos am brosiect Neuadd y Dref, a sut y cafodd yr adeilad hanesyddol unigryw hwn ei warchod a’i ddatblygu ar gyfer dyfodol cymunedau Cwm Llynfi.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, nid oes angen archebu lle.