Neidio i'r cynnwys
Mewngofnodi

basged

eitem (au)
Disgownt:
Cyfanswm:
Cyfrannwch
Delwedd Digwyddiad

Ymunwch â ni am ein bore Treftadaeth nesaf yn Neuadd y Dref Maesteg!
Cymerwch gip ar awditoriwm hanesyddol Neuadd y Dref, a darganfyddwch fwy am y prosiect ailddatblygu diweddar.
Byddwch hefyd yn gallu gweld chwe phaentiad Christopher Williams sydd ar ddangos, a dysgu mwy am yr arlunydd enwog hwn o Faesteg. Bydd ffilmiau byrion hefyd yn ein stiwdio Y Bocs Oren, yn dangos rhaglenni dogfen am Neuadd y Dref a Christopher Williams.

Ac yn arbennig ar gyfer y bore treftadaeth hwn, byddwn yn rhannu rhai eitemau hanesyddol o'n Llyfrgell Hanes Lleol, fel rhan o'n prosiect 'Ogwr wedi'i Ddatgloi'.
Os oes gennych chi unrhyw luniau (hanesyddol) yr hoffech chi eu dangos i ni, byddem wrth ein bodd yn eu gweld! Gall y rhain fod yn ddelweddau o ddigwyddiadau neu adeiladau lleol, lluniau ysgol neu chwaraeon, neu efallai delweddau neu raglenni o berfformiadau Neuadd y Dref.
Os ydych chi'n hapus i rannu'r rhain gydag eraill gallwn sganio eitemau, ond ni fyddwn yn gwneud hynny os hoffech chi gadw'ch lluniau'n breifat.

Croeso i Bawb

Rhannwch y digwyddiad hwn:

Yn ôl i ben y dudalen
Chwilio