
Rydym yn dathlu hanes lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y diwrnod agored treftadaeth arbennig hwn yn Neuadd y Dref Maesteg.
Bydd ein tîm Treftadaeth yn rhannu mwy am brosiect 'Ogwr Datgloi', gan gynnwys y lluniau hanesyddol maen nhw wedi bod yn eu digideiddio.
Byddem hefyd wrth ein bodd yn gweld unrhyw luniau neu raglenni hanesyddol sydd gennych. Os ydych chi'n hapus i rannu'r delweddau gallwn eu digideiddio, ond os nad ydych chi am eu rhannu byddem wrth ein bodd yn eu gweld a chlywed eich straeon.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at glywed eich straeon (a'ch cwestiynau) ynghylch enwau lleoedd lleol, yn enwedig yr enwau answyddogol ar gyfer strydoedd ac adeiladau. Er enghraifft: 'Butler's Hill' ym Maesteg. Byddwn yn recordio'ch holl straeon a'ch cwestiynau fel rhan o brosiect cenedlaethol i gofnodi enwau lleoedd hanesyddol.
Bydd cyfle i ddysgu mwy am hanes lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys hanes Neuadd y Dref Maesteg a'n paentiadau gan Christopher Williams.
Bydd jig-sos hanesyddol a gemau i roi cynnig arnynt hefyd i bobl ifanc a hen.
Digwyddiad galw heibio am ddim yw hwn – ymunwch â ni yn Neuadd y Dref unrhyw bryd rhwng 10.30am a 3.30pm.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru