
Ymunwch â'n gwirfoddolwr newydd, Helen, i wneud blodau hardd wedi'u lapio mewn edafedd.
Gellir troi'r rhain yn froets neu gallwch ychwanegu coesyn pren atynt i wneud arddangosfa flodau.
Mae lleoedd yn gyfyngedig – os yw’r archebion yn llawn ffoniwch y llyfrgell ar 01656 202053 i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
Darperir yr holl ddeunyddiau a bydd te/coffi ar gael.
Cefnogir Llyfrgell Sarn gan Gyngor Cymuned Llanfair-y-Fraid
Canllaw Oed: 18+