Neidio i'r cynnwys
Mewngofnodi

basged

eitem (au)
Disgownt:
Cyfanswm:
Cyfrannwch

Mae noson bandiau misol newydd wedi ei lansio yn Y Muni i arddangos talent Cymreig.

Wedi'i drefnu mewn cydweithrediad â Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd Y Muni Presents yn dathlu talent lleol sy'n dod i'r amlwg ac yn arddangos rhai o'r bandiau a'r artistiaid gwreiddiol mwyaf cyffrous sy'n dod o Gymru.

Gan gychwyn ddydd Gwener 17 Ionawr 2025 , bydd y digwyddiad cyntaf yn cynnwys y cerddorion Cymreig Caitlin Lavagna gyda'i band, ynghyd ag Ivor Woods a Local Rainbow.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Mae gan Y Muni hanes cryf o gefnogi artistiaid Cymreig, felly rydym wrth ein bodd yn rhoi cyfle i dalentau cartref berfformio ar ein llwyfan.

“Bydd Y Muni Presents yn cynnig amgylchedd cyffrous a chefnogol i gerddorion newydd a sefydledig arddangos eu talent a chael profiad perfformio gwerthfawr.”

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Y Muni Elizabeth Driscoll: “Mae Y Muni Presents yn gyfle i’n cwsmeriaid ddarganfod talent newydd ffres ar garreg eu drws a mwynhau noson o gerddoriaeth fyw wych yn ein lleoliad hardd.

“Bydd pob mis yn dilyn thema wahanol, gan arddangos amrywiaeth eang o genres cerddorol a bandiau ac artistiaid gwreiddiol.”

Os ydych yn byw yng Nghymru, ac yn ysgrifennu a pherfformio eich cerddoriaeth eich hun, gallwch gysylltu â ni drwy elizabeth.driscoll@awen-wales.com.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad lansio ar gael yma.

Yn ôl i ben y dudalen
Chwilio