Skip to content
Login

Basket

item(s)
Discount:
Total:
Donate
Event Image

Polka + Theatr Iolo Tidy

Taclus Yn seiliedig ar y llyfr darluniedig i blant gan Emily Gravett

Crëwyd ar y cyd gan Lee Lyford, Lucy Rivers a Rachael Canning

 

Mae Pete y mochyn daear yn hoffi cadw pob dim yn dwt ac yn daclus: pob blodyn, pob deilen, a phob anifail fel pin mewn papur. Pan ddaw’r hydref, mae e’n tacluso, yn tacluso ac yn tacluso unwaith eto, nes ei fod yn difetha’r goedwig gyfan, ac yn colli ei gartref!

Yn seiliedig ar y llyfr hynod boblogaidd i blant gan yr awdur a’r darlunydd Emily Gravett, mae Tidy yn chwedl sy’n ein hatgoffa ni mor bwysig yw’r byd o’n cwmpas ni a’r hyn sy’n digwydd pan na fyddwn yn gofalu amdano.

Gyda phypedau hyfryd, cerddoriaeth wreiddiol a thamaid o ddwli ac anrhefn pur, dyma’r stori berffaith i ddiddanu cynulleidfaoedd ifanc.

Script translated into Welsh by Llinos Mai

Sgript wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg gan Llinos Mai

Ar gyfer plant oed 3 – 7

Hyd y sioe: 45m

Share this event:

  • HYNT Essential Companion (Discounted at checkout): £12.00
  • Standard / Cyffredinol: £12.00
  • Under 16's / Dan 16 Oed: £11.00
    Back To Top
    Search